Lleoliad:
Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 28 Medi 2021
Amser:
09.02 -
09.44
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Bethan Garwood Helen Carey, Llywodraeth Cymru Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.25pm.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.20pm.
Yn dilyn cadarnhad bod y llywodraeth wedi gosod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 ac wedi trefnu dadl a phleidlais ar 5 Hydref, dywedodd Darren Millar wrth y Pwyllgor Busnes na fydd grŵp y Ceidwadwyr yn gwneud eu cynnig ar basys COVID a gyflwynwyd i'w drafod ar 29 Medi. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn dadl y Ceidwadwyr ar Drafnidiaeth y diwrnod hwnnw i awr.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mercher 5 Hydref 2021 –
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 (45 munud)
Dydd Mercher 12 Hydref 2021 –
· Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi llesiant meddwl mewn addysg (45 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19 (45 munud)
· Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2020-21 (60 munud)
Cytunodd y llywodraeth i ymestyn faint o amser a amserlennwyd ar gyfer dadl ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 o 30 i 45 munud.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 20 Hydref 2021 –
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021
Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr a bwriad Llywodraeth Cymru i'r Senedd drafod y rheoliadau hyn ddydd Mawrth 5 Hydref ac y byddai hyn, o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft, yn golygu y byddai angen i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar ddyddiad cau cynharach o ganlyniad.
4.2 Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai swyddogion y Senedd a'r llywodraeth drafod materion sy'n ymwneud â therfynau amser Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ac edrych yn fanylach ar ba bwyllgorau sy'n wynebu heriau wrth gyflwyno adroddiad erbyn dyddiad cau cyfredol yn ogystal â sut y cynigir dyddiad cau yn fwy cyffredinol. Byddai ystyriaeth bellach hefyd yn cael ei rhoi i'r posibilrwydd o ddarparu rhagor o slotiau cyfarfod ychwanegol y tymor hwn ar gyfer pwyllgorau sy'n ymwneud â chraffu ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol hefyd:
· cyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau dros dro ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 18 Tachwedd 2021;
· cyfeirio'r Memorandwm Atodol (Rhif2) ar y Bil Diogelwch Adeiladau at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau dros dro ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 18 Tachwedd 2021;
· adolygu'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) i 18 Tachwedd 2021 i ddechrau; a
· nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol.
4.3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Femorandwm y Bil Iechyd a Gofal
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm ar y Bil Iechyd a Gofal ar 11 Tachwedd 2021.
4.4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes gasgliadau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn ei adroddiad ar ei waith craffu ar Femorandwm Bil yr Amgylchedd a gofynnodd i swyddogion ddarparu cyngor pellach.
5 Sefydlu Pwyllgorau a’u cylchoedd gorchwyl
5.1 Pwyllgorau'r Chweched Senedd - Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
Trafododd y Pwyllgor Busnes drefniadau ar gyfer dirprwyon ar y Pwyllgor Crafu arfaethedig ar Waith y Prif Weinidog, a chytunodd i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
6 Fframweithiau Cyffredin
6.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.